Brad y deallusion
Mewn cyfnod pan fo gwledydd canol Ewrop yn tramwyo llwybr anesmwyth, a chenedlaetholdeb a phoblyddiaeth ar gynnydd, holir yn yr ysgrif hon sut y gall deallusion gadw at eu hegwyddorion ond hefyd gefnogi democratiaeth.
Yng nghynhadledd ddiweddaraf y cylchgrawn Eurozine yn Fienna, fis Tachwedd 2018, pendronai un cynhadleddwr o Brydain pam mai dim ond yng ngwledydd canol Ewrop y trafodir o ddifri rôl, lle a chyfrifoldeb deallusion yn ein cymdeithas. I ddechrau, teimlais rywfaint o chwithdod, wrth i mi gofio bod Kritika & Kontext, y cyfnodolyn a sefydlais yn 1996, wedi cysegru rhifyn cyfan i’r thema ‘Y Deallusyn a Chymdeithas’. Roedd y drafodaeth bryd hynny yn un ddifrifol ond hefyd yn angerddol ac, o’i hailddarllen heddiw, mae’n fy nharo yr un mor berthnasol. Efallai, wedi’r cyfan, bod lle arbennig i ddeallusion yn nefoedd ac uffern canol Ewrop.
Peth digon arferol ydy gweld deallusion yn camu ar y llwyfan cyhoeddus yn y rhan hon o Ewrop. Gellir olrhain y traddodiad i’r cyfnod chwyldroadol a rhamantaidd ar ddechrau’r 19g, pan oedd artistiaid a deallusion – roedd nifer yn llenwi’r ddwy rôl – yn cyfrannu i ddeffroadau cenedlaethol, a phan oedd hunanbenderfyniaeth, hunanfoliant ac, ambell dro, hunanddyfodiant yn denu. Hyd heddiw, artistiaid a deallusion ydy ffigyrau cenedlaethol y gwledydd hyn yn Ewrop, megis Kossuth, Széchenyi, Petőfi, Palacký, Mácha, Masaryk, Mickiewicz, Sienkiewicz, Paderewski, Štúr, Lajčiak a Štefánik. Dyma’r arwyr y mae Hwngariaid, Tsieciaid, Pwyliaid a Slofaciaid ifanc yn eu darllen, yn eu dyfynnu ac yn eu hedmygu. Neu y dylsent fod …
Er hynny, llwyddodd y deallusion i ddeffro bwganod ac angylion ymhlith eu cydwladwyr. Mae eu hetifeddiaeth halogedig, os godidog, yn parhau i fod wedi ei thanio gan emosiwn ac ymrafael. O ganlyniad cawsant eu gwthio i flaen llwyfan digwyddiadau gwleidyddol, yn arbennig mewn cyfnodau o argyfwng neu gythrwfl. Ond cymharol ymylol a distaw yw safle deallusyn canol Ewrop heddiw. Un ffordd o ddeall hynny ydy trwy archwilio etifeddiaeth dau ffigwr dyrchafedig, sef Václav Havel, yr awdur a fu’n arlywydd ar Tsiecoslofacia, a maes o law, ar y Weriniaeth Tsiec, a Viktor Orbán, arlywydd cyfredol Hwngari. Cynrychiola’r ddau ymateb cyferbyniol i’r wleidyddiaeth ôl-gomiwnyddol a ddaeth yn sgil digwyddiadau 1989. Mae dewisiadau ac etifeddiaeth y ddau ffigwr hwn yn peri penbleth i ddeallusion heddiw wrth iddynt ystyried gwleidyddiaeth eu priod wledydd. Hoffwn gynnig trydedd ffordd, a ddangoswyd i ni gan weithredoedd deallusyn a golygydd o Awstria, sef Walter Famler. Ond yn gyntaf, gadewch i ni gymharu statws deallusion gorllewin a chanol Ewrop ac yna, gan ddyfynnu trafodaeth a gynhaliwyd yn 1996 yn Kritika & Kontext, gadewch i ni ddiffinio’r cysyniad o ddeallusyn a’r opsiynau oedd ar gael yn ystod ac ar ôl y cyfnod Comiwnyddol. Yn y Gorllewin, drwgdybir y term deallusyn’ ers i lyfr damniol Julien Benda, La Trahison des Clercs (1927; Brad y Deallusion) roi’r bai ar ddeallusion am holl ddrwg effeithiau’r byd modern. Braidd yn anghyfforddus gyda’r cysyniad y mae cymdeithas ddemocrataidd. Sefydliadau democrataidd sefydlog, nid deallusion arwrol, ddylai symboleiddio a gwreiddio trefn wleidyddol, wedi’r cyfan. Mae sylw Brecht y dylid pitïo gwlad sydd angen arwyr yn cyrraedd at yr asgwrn yn benodol oherwydd bod gwledydd o’r fath mewn cyflwr o gamweithredu, hynny ydy, maent mewn cyflwr peryglus. Er mwyn achub gwladwriaeth, gwelir deallusion o arwyr yn cael eu cyrchu a’u lansio i flaen y llwyfan.
Yn y degawdau diwethaf yn y Gorllewin, mewn tro dwysingol, gan ddatgelu anniddigrwydd sy’n ymylu ar fod yn nodweddiadol o ganol Ewrop, daeth math penodol o ddeallusyn i’r amlwg: y ‘deallusyn cyhoeddus’. Mae’r unigolion hyn yn ymuno â’r disgwrs gwleidyddol wrth i’r hinsawdd wleidyddol ddatblygu’n fwyfwy anrhagweladwy, wrth i fwganod tywyll y gorffennol, ar ffurf cenedlaetholdeb a neoffasgiaeth, fagu hyder i fentro’n ôl i’r sgwâr cyhoeddus yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America, a hynny mewn amrywiaeth o wisgoedd poblyddol. Yn ddiddorol, treuliodd nifer o’r deallusion cyhoeddus hyn gyfnodau yng ngwledydd canol Ewrop, gan ysgrifennu amdanynt hefyd. Bu i Tony Judt, Timothy Garton Ash, Anne Applebaum, Timothy Snyder drafod canol Ewrop yn uniongyrchol yn eu gwaith, a gwnaeth Bernard Henri-Levi, John Gray a Roger Scruton hynny o bellter, gan archwilio adladd fin de siècle canol Ewrop. Dyma lle, yn ôl rhai, yr ymdarddodd holl syniadau ac ideolegau arwyddocaol yr 20g. Yn niffyg unrhyw beth arall, mae’r syniadau hyn yn parhau i ddiffinio’r ganrif bresennol sydd, hyd yma, heb gynnig yr un syniad newydd, dim ond aildrafod hen syniadau. Ac felly mae’r deallusion hyn, gan adnabod tarddiad y bwganod a’r angylion yn nghanol Ewrop, yn abl i draethu a dadansoddi’n huawdl ddatblygiadau ar ddwy ochr yr Iwerydd. Maent yn ymwybodol o’r eironi bod canol Ewrop yn rhoi’r gorau i rinweddau democratiaeth ryddfrydol y Gorllewin tra mae ysgogiadau gwaetha’r rhan hon o’r byd yn graddol heintio’r Gorllewin. Yng nghanol yr ansefydlogrwydd gwleidyddol cyfredol, ymddengys mai dirym yw deallusion presennol canol Ewrop i wynebu cyfundrefnau sydd wedi eu gyrru gan genedlaetholdeb, rhagfarn, poblyddiaeth a rhethreg wrth-orllewinol a gwrth-ryddfrydol, wedi eu harwain gan arweinwyr a chanddynt dueddiadau awdurdodaidd. Mae’r sefydliadau gwladol, a’r cyfryngau annibynnol ddylsai fod yn gwylio ac yn cadw golwg ar y rhai mewn grym, yn gynyddol dan fygythiad, neu ym mhoced gwleidyddion ac oligarchiaid. Crebachu mae’r gofod sydd ar gael i ddeallusion leisio eu barn, ac edwino mae eu dylanwad.
Pam felly ysgrifennu am ddeallusion canol Ewrop os nad ydynt yn darparu dim o’u harweiniad traddodiadol? Pam nad dilyn gwleidyddiaeth, yn syml iawn, gwleidyddiaeth Ewropeaidd a domestig, a dadlennu anghymedroldeb yr eithafwyr – y rhai gwirioneddol alaethus? Un rheswm ydy bod statws cyfredol deallusion yn arwydd hefyd o gyflwr y rhan hon o’r byd. Y rheswm arall ydy bod potensial i’r sefyllfa ddifrifol sydd ohoni heddiw ddirywio ymhellach, a phan gyrhaeddwn y gwaelodion, y tebyg ydy y byddwn yn galw eto ar y deallusion hyn i ddod i’r adwy.
Mae’r amrywiol ffyrdd o fynd ati i ddeall statws a diffiniadau deallusion yn niferus. Yn Kritika & Kontext (2/1996) gofynnwyd y cwestiwn canlynol: Beth ddylai rôl deallusyn fod mewn cymdeithas? I ba raddau mae’r rôl hon yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd ganddi/ganddo ac i ba raddau ar ofynion a heriau a gyflwynir gan gymdeithas? Beth yw’r amodau angenrheidiol er mwyn i ddeallusyn ymwneud â’r ymadrodd ‘allanfa, llais neu deyrngarwch’ a pha ganlyniadau sydd i ddewisiadau o’r fath? Cyfeirio yr oeddem at dermau poblogaidd Albert O Hirschman a gawsai eu defnyddio ym maes economeg a gwleidyddiaeth. Mae ‘allanfa’ yn golygu dewis, am wahanol resymau, peidio â beirniadu neu herio’r gyfundrefn, a phenderfynu ar alltudiaeth fewnol neu allanol yn lle hynny. Ystyr ‘llais’ yw cwestiynu’r gyfundrefn yn agored, ac ysgwyddo’r canlyniadau er mwyn sefyll tu ôl i’n hegwyddorion. Y cysyniad mwyaf diddorol o’u plith ydy’r cysyniad o deyrngarwch, a allasai amrywio rhwng cefnogi’r pwerau mewn grym, ymuno â gwleidyddiaeth mewn ffordd weithredol nes bradychu egwyddorion trwy gynffonna neu, yn waeth, gamddefnyddio grym er mwyn mawrhau’r hunan.
Yn yr un rhifyn o Kritika & Kontext aethom ati i ddiffinio pwy sydd a phwy sydd heb fod yn ddeallusyn. Y ffocws tyngedfennol yn y drafodaeth oedd ymreolaeth, neu’r ‘dewis’ sydd gan ddeallusyn wrth benderfynu ar ei gweithredoedd neu ei weithredoedd: Nid deallusrwydd yn unig sy’n diffinio’r deallusyn, ond ei safiad beirniadol yn wyneb y status quo. Yn yr ystyr hwn, nid yw meddwl disglair sydd yn gwasanaethu’r drefn yn ffyddlon ac yn anfeirniadol, dim ots pa mor oleuedig, yn ddeallusyn o gwbl. Mae bod yn ddeallusyn yn gofyn am ymrwymiad cyhoeddus.
Ar y llaw arall, nid ffawd a ragordeiniwyd, nid ffawd anymwybodol y dylai deallusyn ei dilyn, ond dewis personol. Er gwir bod rôl y deallusyn fel ‘cydwybod cymdeithasol’ neu ‘ddadleuwyr y diafol’ yn awgrymu cyfrifoldeb i amddiffyn y rhai nad ydynt mewn sefyllfa i’w hamddiffyn eu hunain, i brocio’r diog, ac i gystuddio pob teyrn, mae’r rôl hon yn rhagdybio ymroddiad blaenorol ar ran y deallusyn i’w rwymedigaethau a’i egwyddorion. Felly, os ydi cymdeithas yn mynnu bod y deallusyn bob amser ac ym mhob man yn gorfod gweithredu yr opsiwn ‘llais’ yna mae hynny’n gymaint o ymyrraeth yn ei annibyniaeth ag ydy sensora’r gyfundrefn ormesol. Oherwydd bod y ddwy elfen yn angenrheidiol i fagu safiad beirniadol y deallusyn, mae rhinweddau annibyniaeth a chyfrifoldeb yn gyd-ddibynnol.
Annheg felly ydy gosod cyfrifoldeb dros ffawd cymdeithas ar ysgwyddau deallusion. Mae eu rhyddid i ddewis ymwneud neu i ymgilio i’w byd preifat eu hunain yn un hanfodol. Hefyd, roedd yr amodau yn wahanol cyn ac ar ôl cwymp y gyfundrefn gomiwnyddol yng nghanol Ewrop. Un dewis oedd camu i fyd gwleidyddiaeth a dal i geisio aros yn driw i werthoedd y deallusyn, fel yn achos Václav Havel. Y llall oedd cofleidio unrhyw fodd o ennill a chynnal grym, fel yn achos Viktor Orbán. Yn nhermau’r tri dewis – ‘allanfa, llais neu deyrngarwch’ – mynnodd Havel aros yn llais ac ymuno â gwleidyddiaeth ar yr un pryd, gan gyfaddawdu’r ddau mewn brwydr anghymodlon; tra gwyrdroes Orbán deyrngarwch trwy fynd yn Lefiathan.
Hyd 1989, Havel oedd gwrthwynebydd mwyaf blaenllaw Tsiecoslofacia. Cafodd ei garcharu nifer o weithiau yn y 70au a’r 80au. Methodd y gyfundrefn gomiwnyddol â’i dorri na’i ddistewi. Beirniadodd y gyfundrefn trwy broclamasiynau di-bendraw, datganiadau ac erthyglau; yr enwocaf o’u plith yw’r testun ‘The Power of the Powerless’. Fel cyd-sefydlydd Siarter 77, roedd ef a gwrthwynebwyr eraill y drefn yn dwyn y gyfundrefn gomiwnyddol i gyfrif ynghylch parchu hawliau dynol – hawliau a arwyddwyd drostynt gan eu harweinydd yn Helsinki yn 1975. Roedd Havel yn rhan o wleidyddiaeth heb fod rheidrwydd arno i gyfaddawdu â llywodraethwyr ei wlad; dilynai ei gydwybod yn unig, trwy’r hyn a alwai’n ‘fyw gwirionedd’. Ef oedd yr arwr yr oedd ei angen ar ei gymdeithas wantan. Wedi cwymp y gyfundrefn gomiwnyddol yn Nhachwedd 1989 aeth yn rhan o’r llywodraeth, gan ddod yn arlywydd Tsiecoslofacia.
Wynebodd Havel ddwy gyfundrefn: comiwnyddol a democrataidd, gan ddefnyddio’r un dull gyda’r ddwy. A dyna lle mae’r anhawster i’r deallusyn. Roedd camu i fyd gwleidyddiaeth ddemocrataidd yn gofyn am strategaeth wahanol i’r llais annibynnol a gystwyai’r gyfundrefn gomiwnyddol a oedd wedi methdalu cyn Tachwedd 1989. Mynnodd Havel aros yn ddeallusyn. Cafodd ei edmygu ac enillodd gefnogaeth a pharch am ei barodrwydd i fyw gwirionedd, i sefyll uwchlaw gwleidyddiaeth, gartef a thramor. Ar y llaw arall, yn nhermau gwleidyddiaeth, roedd goblygiadau trasig i hyn ar gyfer Tsiecoslofacia.
O safbwynt theori wleidyddol, roedd adlais o wleidyddiaeth gyn-Faciafelaidd yng ngwleidyddiaeth Havel wedi 1989. Pwysleisio delfryd gwleidyddiaeth a wnaethai’r rhai a ysgrifennai am y maes cyn Machiavelli – sut y dylai fod yn egwyddorol, yn amcanu at ddelfryd, yn selog ac yn wyliadwrus o Dduw hefyd. Diystyrid gwleidyddiaeth y gwter, y wleidyddiaeth sinigaidd honno a oedd ar led ac felly nid ymdriniwyd â hi’n uniongyrchol. Mewn ffordd, mae cais Havel i fyw gwirionedd a’i gysyniad o rym y di-rym yn adleisio Wtopia Thomas More – nid fel ffordd o newid cyfundrefn lygredig, ond fel gweledigaeth o’r hyn y dylai delfryd gwleidyddiaeth fod. Ac yn wir, wrth wynebu her wleidyddol wirioneddol, ei alltudio ei hun oddi wrth gyfrifoldeb wnaeth yr Arlywydd Havel, y Deallusyn.
Un enghraifft o fethiant Havel oedd adeg rhannu Tsiecoslofacia yn ddwy wladwriaeth. Wrth wynebu rhaniad y wlad yr oedd yn arlywydd arni, penderfynu gadael y cwch wrth iddo suddo wnaeth Havel. Ac eto, gwta flwyddyn ynghynt roedd wedi addo sefyll a herio’r rhai a oedd o blaid ymwahanu. Yn ddeallusyn yn hytrach nag yn wleidydd, gwrthododd ymladd dros ei wlad er bod y mwyafrif o’r Tsieciaid a’r Slofaciaid yn amlwg yn erbyn rhannu. Yn hytrach, gadawodd y penderfyniad I brif weinidogion sinigaidd yr ochr Tsiec a’r ochr Slofac o’r ffederasiwn, a holltodd y wlad heb alw refferendwm.
O safbwynt deallusyn ym myd gwleidyddiaeth, peth naturiol oedd cerdded ymaith yn wyneb her wleidyddol. Ac fel deallusyn nid oedd bod yn arlywydd ar y Weriniaeth Tsiec wedi rhaniad Tsiecoslofacia yn poeni ei gydwybod. Daeth amser gwleidyddiaeth fudr i ben ac roedd modd iddo unwaith eto, mewn gwlad wahanol, fod yn ddeallusyn a gadwai olwg, oddi fry ac o bell, ar wleidyddiaeth go iawn.
Galwodd Petr Pithart, gwleidydd a chydwrthwynebydd y gyfundrefn gomiwnyddol, Havel yn ‘wladweinydd nad oedd yn wleidydd’. Gwerthfawrogaf y disgrifiad hwnnw oherwydd mae’n maddau methiannau gwleidyddol Havel gan gadw rhin yr athronydd-arlywydd yr un pryd. Ond wrth fyfyrio ar gyfrifoldeb gwleidyddol Havel, nid yw’n gwneud synnwyr. Nid oes modd bod yn bencampwr chwaraeon heb fod yn chwaraewr, nid oes modd bod yn llawfeddyg uchel ei barch heb astudio ac ymarfer fel meddyg. Yn yr un modd, gwladweinydda yw pinacl cyfraniad gwleidydd llwyddiannus. Ond aros yn ddeallusyn ym myd gwleidyddiaeth wnaeth Havel, wedi ei barlysu pan ddaeth yn fater o warchod Tsiecoslofacia.
Mae gan Machiavelli bersbectif dwysingol ar y math hwn o wleidydd delfrydgar, persbectif sydd yr un mor ddilys heddiw ag yn ei gyfnod ei hun. Ysgrifenna: os yw gwleidydd rhinweddol a theg wedi ei amgylchynu gan gymdeithas anfoesol a llygredig ac os yw’n mynnu cadw at ei dir uchel moesol, cael ei ddisodli a wna gan y rhai hynny nad ydynt yn dioddef gan boen cydwybod. Yr ateb yw gostwng ein safonau moesol ein hunain i warchod safle ac, yn y modd hwn, bod o ddefnydd i’n cymdeithas. Nid yw hynny’n golygu bod yr un mor anfoesol a llygredig â’r rhai o’n cwmpas. I’r gwrthwyneb, mae dod o hyd i’r tir canol yn gelfyddyd mewn gwleidyddiaeth. Dyma diriogaeth y gwir wladweinydd.
Yn bwysicach na dim, gadawodd Havel ei ôl ar bron pob un o ddeallusion canol Ewrop. Gwelsant yn ei safiad yn herio’r drefn – a gwleidyddiaeth lygredig, yn aml iawn – y gymdeithas ôl-gomiwnyddol, rinwedd i’w hedmygu a’i dynwared mewn gweithred ac mewn gair. I bob pwrpas, parlyswyd y deallusion hyn yn eu ffordd ddelfrydol o fynd ati i wleidydda wrth iddynt wynebu dirywiad amgylchiadau gwleidyddol canol Ewrop. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gwarchododd eu gwleidyddiaeth a’u testunau dir uchel moesol Havel, ond yn raddol, collasant eu dylanwad dros wleidyddiaeth ymarferol eu cymdeithas. Heddiw, mae eu llais yn bresennol ond yn ymylol, ac felly, yn llawn rhwystredigaeth ac anobaith. Mae hefyd yn ymylu ar fod yn hunangyfiawn.
Ceir dewis arall, mwy eithafol I ymwneud Havel mewn gwleidyddiaeth, sef ymwneud lle mae’r deallusyn yn penderfynu gwrthod unrhyw safonau moesol ac yn mynd am y gwter wrth ymgyrraedd at bŵer. Dyna’r sefyllfa yr ydym ynddi gyda Viktor Orbán a oedd, ar sail unrhyw safonau, yn ddeallusyn cyn 1989, ac am rai blynyddoedd wedyn. I lawer, fodd bynnag, mae disgrifio Orbán fel deallusyn heddiw yn taro nodyn rhyfedd. Erbyn hyn, mae’n wleidydd craff ac yn deyrn. Ac eto, ef oedd un o sefydlwyr Fidesz, plaid a gychwynnwyd yn 1988 gan ddeallusion a gwrthwynebwyr ifanc y gyfundrefn Hwngaraidd.
Penderfynodd Orbán gefnu ar ei safiad deallusol. Sylweddolodd, fel pen y blaid ddeallusol ryddfrydol, na fyddai modd iddo ddenu mwy na chyfran fechan o’r etholaeth. Roedd yn ysu am bŵer a phoblogrwydd ac yn barod i wneud unrhyw beth i’w cael. Fel deallusyn, ac ar sail hanes theori wleidyddol, gwyddai am stordy o strategaethau i ennill a dal gafael ar bŵer. I gychwyn, sicrhaodd barlys ar y cyfryngau annibynnol a defnyddiodd rethreg genedlaethol eithafol er mwyn bod gam ar y blaen i’r blaid neoffasgaidd, Jobbik. Yna, newidiodd y cyfansoddiad er mwyn gwarchod ei safle, ond ar yr un pryd, caniataodd etholiadau democrataidd. Yn 2014, pan ddisgrifiodd ei bolisïau fel ‘democratiaeth anrhyddfrydol/ adweithiol’, roedd yn llygad ei le. Mae’n cynrychioli i’r dim y modd y cafodd y term ei ddiffinio gyntaf a’i ddisgrifio yn 1997 gan Fareed Zakaria. I Zakaria, mae democratiaeth anrhyddfrydol yn caniatáu etholiadau ond yn tanseilio’n gyfan gwbl drefn y gyfraith a rhyddid y wasg, ac yn llygru sefydliadau democrataidd. Mae’n lasbrint ar gyfer Hwngari, ac yn ddelwedd ohoni heddiw.
Mae stori Viktor Orbán yn cyfareddu ac yn dychryn ar yr un pryd. Yn Fienna, lle pendronai’r golygydd hwnnw o Brydain yn ddiweddar am rôl deallusion yng nghanol Ewrop, clywais stori ddegawd yn ôl gan y deallusyn a’r awdur Hwngaraidd György Dalos am ei hen ffrind Victor Orbán a’i volte face gwleidyddol a deallusol. Ryw dro yn nechrau’r 1990au, cyfarfu Orbán ag ef a dweud wrtho na fedrai ei blaid, Fidesz, trwy ddisgwrs rhyddfrydol democrataidd, gynyddu’i rhan o’r bleidlais yn uwch na phum neu chwech y cant – ac felly roedd wedi penderfynu troi at genedlaetholdeb er mwyn rhoi gwynt yn hwyliau ei uchelgais wleidyddol, megis. Mynnodd Orbán ddweud hyn wrth ei ffrind, yn ymwybodol ar yr un pryd mai dyma, mwy na thebyg, fyddai diwedd eu cyfeillgarwch. Ing deallusyn a fethodd, efallai. Ymwahanodd y ddau, Orbán i fynd yn brif weinidog – yn wir, mae’n ymddangos erbyn hyn yn brif weinidog am oes – tra pery ei ‘ffrind’, Dalos, i fyw ‘yn alltud’ yn Berlin, dinas lle daeth llawer o ddeallusion ac artistiaid canol Ewrop o hyd i loches yn ystod y tri degawd diwethaf.
Felly pa opsiynau sydd ar gael bellach i ddeallusion canol Ewrop heddiw? Sut mae modd iddynt gynnal eu safiad annibynnol a’u hegwyddorion moesol, ac eto dod o hyd i fangre lle mae modd iddynt gefnogi democratiaeth yn eu gwledydd? Mae hwn yn gwestiwn sy’n pwyso heddiw, a chanol Ewrop yn tramwyo llwybr anesmwyth unwaith eto, llwybr cenedlaetholdeb a phoblyddiaeth. Nid yw’r ateb yn syml nac yn hawdd. Rhaid i ddeallusyn benderfynu drosti hi neu ef ei hun, a rhaid gallu dewis allanfa – ymgilio I breifatrwydd – fel llwybr dilys wrth wynebu cyfundrefn wleidyddol ddidostur. Serch hynny, i fod yn llais yn y gofod cyhoeddus heddiw, a pheidio â disgyn i drap Havel neu Orbán, nid yw’n ddigon bod yn feirniadol o’r status quo gwleidyddol. Ein gweithredoedd unigol gerbron unigolyn arall, neu dros achos, sydd yn diffinio ein golygwedd ddeallusol. Ceisiaf egluro hyn trwy gyfrwng stori arall. Mae Walter Famler, deallusyn o Awstria, cyhoeddwr ac ymgyrchydd, wedi rhoi ei ‘lais’ ar waith ers degawdau trwy feirniadu gwleidyddiaeth ei famwlad, gan ei galw – braidd yn ddramatig – yn wladwriaeth ffasgaidd. Rydym ninnau, ei ffrindiau, yn aml yn ystyried y rhybuddion hyn fel Walter yn mynd i hwyliau, yn gor-ddweud. Tuedda i siarad mewn gormodiaith ac edmygir ganddo ystod eang o ffigyrau amlwg a mudiadau radical. Yn y gorffennol ceid Lenin, Castro, Iwgoslafia Tito, Malcolm X, Muhammed Ali a Yuri Gagarin. Yn fwy diweddar, gwelodd yn Herbert Marcuse a’r gyfrol eiconig Dialectics of Liberation (1967) gyfle arall eto i wynebu a disodli’r drefn gyfalafol. Hyd yma, felly, gellid dweud, dyma ddeallusyn dosbarth-canol, canoloed ar y chwith.
Ac eto, yr hyn sy’n ei ddiffinio yw ei ymateb i ddioddefaint go iawn. Dyna a erys a dyna sy’n ei wahaniaethu oddi wrth y dosbarth hwnnw o ddeallusion a siarada heb weithredu. Rai blynyddoedd yn ôl, dywedwyd wrtho gan rywun o Hwngari a oedd yn byw yn Fienna bod ei brawd digartref wedi ei saethu ar y stryd yn Budapest, ac yn yr ysbyty. Ar y pryd, roedd cefnogwyr y blaid neo-ffasgaidd Jobbik yn ymffrostio eu bod yn saethu’r digartref yn y ddinas. (Nid oes hawl i fyw gan y Missrathene Volker, fydden nhw wedi dweud pe baent wedi darllen Nietzsche ar ei waethaf.) Dywedodd yr unigolyn hwn hefyd wrth Walter bod ei brawd – oedd yn artist – yn ansefydlog yn feddyliol. Dangosodd rai o’i ddarluniau iddo. Craffodd yntau ar y darluniau hyn o law un a anrheithiwyd, a myfyrio ar ei ffawd a’i ragolygon, a phenderfynodd weithredu.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Walter wedi cynorthwyo Tamás Bakos mewn amrywiol ffyrdd: trwy ei annog i baentio, trwy roi lloches iddo yn ei gartref, trwy drefnu arddangosfa o’i waith, cynorthwyo ei deulu, a threfnu adeiladu cartref bychan iddo yn ei bentref genedigol yn nwyrain Hwngari. Mae Bakos bellach yn paentio ac wedi adennill ei urddas a’i hunanfeddiant. Diolch i Walter, gellid dweud ei fod wedi ei aileni. Yr ymateb dynol hwn i ddioddefaint cyd-ddyn, ac nid dim ond ei eiriau, sydd yn nodweddu Walter fel deallusyn ar ei orau. Gweithreda drugaredd dynol sy’n cynnig dihangfa i ddeallusion canol Ewrop rhag atyniadau Haveliaid ac Orbaniaid y byd hwn. Atyniad y cyntaf ydy’r demtasiwn I foesoli oddi fry ond o ganlyniad wynebu’r perygl real o foesoli’n wag; yr ail ydy cofleidio greddfau isaf dynolryw, sef cybydddod, ymffrost a’r ysfa i afael mewn grym. Ar hyd ei fywyd, pwysleisiai arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia, Tomáš Garrigue Masaryk, a oedd yn athronydd a deallusyn, bwysigrwydd gwaith neu weithredoedd bychain. Dyma’r nod a oedd gyfuwch â phopeth, yn ei farn ef, beth bynnag fo statws rhywun; nod realistig sydd â budd clir i unigolyn neu achos. Yn y cyswllt hwn, rhaid i ‘allanfa, llais neu deyrngarwch’ deallusion canol Ewrop gael nod diriaethol ac osgoi parablu mewn termau hollgyffredinol neu yn nhermau mentrau byd-eang sydd yn ddiwahân yn methu; yn hytrach, dylid canolbwyntio ar ymdrechion y mae modd eu gwireddu, sydd yn rhoi ystyr i fywyd ac yn ei wneud yn llesol i ni’n hunain ac i gymdeithas. Boed hynny’n weithredoedd i helpu’r digartref, y Roma neu fewnfudwr, ymwneud ag anghyfiawnderau bychain sydd yn cyfrif. Mae hynny’n fwy gwerthfawr, yn wir, na gwaredu’n barhaus ynghylch argyfwng democratiaeth ryddfrydol, a chystwyo mwyafrif yr etholwyr am ethol poblyddwr, neu roi’r gorau i weithredu’n gyfan gwbl a chyhoeddi bod y byd tu hwnt i obaith. Wnaeth credo Masaryk dros weithredoedd bychain mo’i rwystro, yn ei saithdegau, rhag gadael ei wlad. Yn 1918 daeth yn waredwr gwlad newydd – Tsiecoslofacia. Ond cyn 1914, doedd Tsiecoslofacia rydd erioed yn rhan o’i gynlluniau, pan oedd hynny’n gyfan gwbl afrealistig. Cyfle bychan a ddaeth i’w ran o ganlyniad I amgylchiadau’r Rhyfel Mawr ac mi afaelodd ynddo. Dyma’r dewis y mae deallusion canol Ewrop yn ei wynebu: gweithredu yn nhermau Havel, Orbán – neu Walter.
Published 4 June 2019
Original in English
First published by New Eastern Europe 2019/01 (English) / O'r Pedwar Gwynt Spring 2019 (Welsh)
Contributed by O'r Pedwar Gwynt © Samuel Abrahám / New Eastern Europe / O'r Pedwar Gwynt / Eurozine
PDF/PRINTNewsletter
Subscribe to know what’s worth thinking about.